#CultureMinisterForWales Join our social media campaign calling on the new Welsh Government for a Culture Minister for Wales
What Next? Cymru are calling on the new Welsh Government to consider the Reciprocal Pledges set out in our Cultural Manifesto for Recovery, which include the creation of a Culture Minister for Wales.
Recovery will be the central task of the new Welsh Government and the creative sector has a vital role to play in that recovery. In doing so we pledge to work together across all our sectors and beyond on initiatives that will address issues of equal representation, collaboration, healing, and the realisation of the objectives of the Well-being of Future Generations Act and Cymraeg 2050.
We ask the new government to ensure the close involvement of the cultural sector in an integrated approach to planning and strategy across all portfolios. We believe this will be better achieved by making culture and creativity the responsibility of a Culture Minister as a full Cabinet Member and by the creation of a strong central policy unit in Welsh Government that would benefit not only health, education, arts and culture, creative industries, and the Welsh language, but all its departments via a cross-cutting approach to policy development and evaluation.
What Next? Cymru is part of a movement bringing together arts and cultural organisations and individuals. Through weekly meetings of informed and inclusive conversations with each other, the aim is to strengthen the role of arts and culture in Wales.
#CultureMinisterForWales
#GweinidogDiwylliant Ymunwch â'n hymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol sy'n galw ar y Llywodraeth newydd yng Nghymru am Weinidog Diwylliant
Mae What Next? Cymru yn galw ar y Llywodraeth newydd yng Nghymru i ystyried yr addunedau a amlinellir yn y Maniffesto Diwylliannol ar gyfer Adferiad, sy’n cynnwys penodi Gweinidog Diwylliant.
Adferiad fydd prif dasg y Llywodraeth Cymru newydd yn dilyn yr etholiad, ac mae gan y sector greadigol rôl hanfodol i’w chwarae yn yr adferiad hwnnw. Er mwy cyflawni hyn rydym yn addo cydweithio oddi fewn i’r sector a thu hwnt ar fentrau fydd yn mynd i’r afael ag ystyriaethau cynrychiolaeth cyfartal, cydweithio, gwellhad, yn ogystal â gwireddu nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Chymraeg 2050.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cydweithio yn agos â’r sector diwylliannol wrth ddatblygu a chynllunio strategaethau integredig ar draws pob portffolio. Credwn y gellid cyflawni hyn drwy roi cyfrifoldeb dros ddiwylliant a chreadigrwydd i Weinidog Diwylliant fel aelod llawn o’r cabinet a thrwy greu uned polisi ganolog gref o fewn Llywodraeth Cymru a fyddai o fudd nid yn unig i iechyd, addysg, celfyddydau a diwylliant, diwydiannau creadigol a’r Gymraeg, ond hefyd i’w holl adrannau, gan sicrhau dull drawstoriadol o ddatblygu polisi a gwerthuso.
Mae What Next? Cymru yn fudiad sy’n dwyn ynghyd sefydliadau ac unigolion o’r sector gelfyddydol a diwylliannol. Wrth gynnal cyfarfodydd wythnosol o sgyrsiau deallus a chynhwysol gyda’n gilydd, y bwriad yw cryfhau rôl y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru.
whatnextcardiff@gmail.com
What Next? Cymru © 2021