* please scroll for English *
Mudiad What Next? Cymru yn chwilio am gefnogaeth marchnata llawrydd
Sefydlwyd What Next? Caerdydd yn 2014 fel adain leol o’r mudiad Prydeinig ehangach. Yn 2020 newidiwyd yr enw i What Next? Cymru, gan weithredu dros Gymru gyfan ac arlein.
Derbyniwyd nawdd o Gronfa Cydrannu Cyngor Celfyddydau Cymru er mwyn cefnogi ein gwaith marchnata, cyfathrebu a chyrraedd cynulleidfaoedd yn ystod gwanwyn 2021.
Rydym yn chwilio am weithiwr llawrydd proffesiynol ym maes marchnata ar gyfer cytundeb oddeutu 3 diwrnod ar raddfa o £200 y diwrnod, gyda’r gwaith i’w gwblhau erbyn dechrau/canol Mawrth 2021.
Bydd y cytundeb yn gofyn cyflawni’r tasgau canlynol:
- Creu adolygiad byr o’r sefyllfa farchnata gyfredol, gan edrych ar ein gweithgareddau a’n sianeli, gan gynnwys mynychu’r cyfarfod wythnosol.
- Addasu’r wefan, edrych ar eiriad ebyst, ac adolygu gwefannau cymdeithasol ayyb yn dilyn canfyddiadau’r adolygiad
- Ymchwilio i gyrraedd cynulleidfa/rhanddeiliaid, gan gynnwys arbrofi â dulliau newydd i ymgysylltu â rhwydweithiau tu hwnt i’n rhai arferol er mwyn targedu cynulleidfaoedd newydd.
I ymgeisio am y swydd hon, anfonwch CV a datganiad o ddiddordeb (1 x A4) at whatnextcardiff@gmail.com (12 hanner dydd 20/01/2121)
Gwybodaeth bellach am What Next?
Mae What Next? yn dod â phobl at ei gilydd er mwyn trin a thrafod dyfodol y celfyddydau a materion diwylliannol ar draws y DU (gan gynnwys gyda gwleidyddion, y wasg a chyfryngau, a ffigyrau dylanwadol eraill). What Next
? yw’r unig fudiad cenedlaethol sy’n darparu yn rhad ac am ddim y cyfle i ddwyn ynghyd gweithwyr llawrydd a chynrychiolwyr o sefydliadau mawr a bach. Dros y pum mlynedd diwethaf yng Nghymru, rydym wedi arwain ar ymgyrch Caerdydd Heb Ddiwylliant? (Cardiff Without Culture?), wedi bod o gymorth i lwyddiant ymgyrch Get Creative, wedi cynnal hystingau diwylliannol ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2016, a llawer iawn mwy.
Ein Gweledigaeth: gall y celfyddydau a diwylliant chwarae rhan allweddol mewn creu cymdeithas decach.
Bydd hyn yn cael ei wireddu:
– pan fydd y celfyddydau a diwylliant yn hygyrch i bobl o bob cefndir, ac y byddwn fel sector wedi dwys ystyried pwysigrwydd cynrychioli’r holl amrywiaeth yn ein cymunedau
– pan fydd y sector gelfyddydau a diwylliant yn hawlio perchnogaeth o’i chyfrifoldeb cyhoeddus ehangach, i wella safon bywydau pawb
Gyda’n gilydd byddwn yn:
– hwyluso sgyrsiau gyda’n gilydd, gyda gwleidyddion, noddwyr, partneriaid, ymgyrchwyr, a’r cyhoedd
– meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth, partneriaethau a gwytnwch o fewn y sector gelfyddydau a diwylliant
– lobïo dros werth y celfyddydau a diwylliant, gan greu ymatebion ar y cyd i gynigion polisïau a strategaethau lleol a chenedlaethol
– creu ymgyrchoedd cenedlaethol ac adnoddau ar y cyd er mwyn gweithredu’r hyn y mae’r mudiad yn ei ystyried yn bwysig
Sianeli, cynulleidfaoedd ag asedau marchnata cyfredol What Next? Cymru
Gwefan: (hen agendâu, cefndir, aelodau ayb) https://whatnextcymru.com/
Twitter: @WNCardiff
Ebost: whatnextcardiff@gmail.com (mae gan Mailchimp tua 450 o danysgrifwyr)
Cyfarfodydd: bob bore Mercher am 8.30am am awr, ac bob dydd Mercher cyntaf y mis am 4.30pm; mynychir pob cyfarfod gan 30-50 unigolyn ac ar adegau dros 100. Cynhelir y cyfarfodydd ar Zoom yr Eisteddfod Genedlaethol gyda chyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg. Trefnir y cyfarfodydd gan dîm o oddeutu 20 o wirfoddolwyr sy’n cynnig cymorth i rwydwaith What Next? Cymru.
+++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++++
What Next? Cymru seeks freelance marketing support
What Next? Cardiff was established in 2014, as a local chapter of the UK-wide movement; Last year it became What Next? Cymru, operating Wales-wide and online.
We now have funds from ACW’s Sharing Together fund to support our marketing, communications and reach during spring 2021.
We are seeking a freelance marketing professional for a contract of approximately 3 days to be delivered by early/mid March 2021 at a fee rate of £200 per day.
The contract has the following deliverables:
- a short marketing review of current activity and channels, including attending a weekly meeting
- adjustments to website, email copy, social media platforms etc following on from the review
- research into current audiences followed by a range of targeted approaches beyond our usual networks to help us widen our reach
To apply for this role, please send a CV and an expression of interest (1 x A4) to whatnextcardiff@gmail.com ((12 noon 20/01/2121)
Further Information About What Next?
What Next? brings people together to debate and shape the future of arts and culture in the UK (including with politicians, press and media, and publics). What Next? is the only, free-to-access national movement that brings together both freelancers and small and large organisations. Over the last five years in Wales, we have spearheaded the Cardiff Without Culture? campaign, helped make a success of Get Creative, held a culture hustings for the 2016 Senedd elections, and much more.
Our vision: arts and culture play a vital role in creating a more equitable society.
This will be achieved when:
– all people have access to arts and culture, and the sector reflects the full diversity of our communities
– the arts and culture sector take greater ownership of its wider public role, improving quality of life for all
Together we:
– facilitate conversations with each other, politicians, funders, partners, activists, audiences and the public
– build knowledge, relationships and resilience in the arts and cultural sector
– lobby for the arts and culture, creating collective responses to policy proposals and national and local strategies
– create national campaigns and collective resources to affect the things the movement cares about.
Existing WN?Cymru channels, assets, audiences
Website: (agendas, background, members etc) https://whatnextcymru.com/
Twitter: @WNCardiff
Email: whatnextcardiff@gmail.com (mailchimp has c450 subscribers)
Meetings: every week on Wednesday 830am for an hour, as well as on the first Wednesday of every month at 430pm; regular attendance of 30-50 people, sometimes in excess of 100. The Eisteddfod hosts the meetings on Zoom with simultaneous translation from Welsh to English. An organising group of about 20 volunteers help support the work of WN?Cymru.